CYMDEITHAS PYSGOTWYR SEIONT GWYRFAI A LLYFNI
Mr. G.T. Jones Dr. R. Parry Mr. H.P. Hughes
Tŷ Gwyn Rhiwerfa Llugwy
Saron Llanberis Ystad Eryri
Bethel Caernarfon Bethel
Caernarfon LL55 4LE Caernarfon
LL55 1BX
01248 670 666
e-bost – huw.hughes@lineone.net
3 Ebrill 2015
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwydded
Ymchwilad Blynyddol 2015 ar Gyfoeth Naturiol Cymru
Cymdeithas Pysgotwyr Seiont Gwyrfai a Llyfni yw un gymdeithasau pysgota mwyaf blaenllaw Cymru. Mae yn sefydliad sydd a'i gwreiddiau yn ddwfn yn y gymuned leol gyda diddordebau yn ymestyn o berchenogion hawliau pysgota, tir ac adeiladau sy'n cynnal llety hunan gynhaliol. Yn ogystal mae gweithdai a deorfa lewyrchus yn cael ei chynnal a'i rhedeg yn wirfoddol gan yr aelodau.
1. O ystyried yr holl weithgareddau. prif amcan y gymdeithas yw gallu cynnal a chynnig pysgota o safon am bris rhesymol i drigolion lleol a rhoi cyfle i ymwelwyr bysgota'r dyfroedd yn ogystal ac aros i fwynhau atyniadau gwych y fro.
2. Mae'r dyfroedd yn gartref i'r eog, brithyll môr, brithyll brown, torgoch a brithyll yr enfys.
3. Buasai'n wir dweud fod cyd-weithredu rhwng y gymdeithas a chyrff sydd a chyfrifoldeb am gynnal a ddatblygu pysgodfeydd wedi bod, ac yn dal i fod yn un eithaf positif cyn belled a mae chysylltu a chyfarthebu a swyddogion yn bodoli.
4. Yn anffodus dyma cyn belled a mae pethau yn mynd - gan fod datblygiadau wedi ac yn dal i ddigwydd yn yr aradl sydd yn cael effaith drychinebus ar ffrwythlondeb ein dyfroedd. Yn anffodus mae pob corff gyda'r cyfrifoldeb am reoli, gwarchod a datglygu ein pysgodfeydd wedi bod yn esgelus dros ben gyda ei cyfrifoldebau. Rhai engreifftiau yw :-
5. Afon Gwyrfai - diffyg rheoli effaith cronfa ddŵr Llyn Cwellyn.
6. Afon Llyfni - effaith tynnu dŵr i'r fferm bysgod ym Mhontllyfni (sychu'r afon) arllwysion o waith carthffos Penygroes a arllwysion o chwarel gerrig ym Mhant Glas.
7. Llyn Padarn/Afon Seiont - dyma ble mae'r niwed amgylcheddol mwyaf yng Nghymru yn cymryd lle, mae hyn yn ymestyn o ddechrau'r 1970'au pan ddechreuwyd adeiladu Gorsaf Gynhyrchu Trydan Dinorwic
8. I weithredu'r cynllun 'hydro' fe amddifadwyd y dalgylch o Lyn Peris, afon Dudodyn, rhannau o afonydd Hwch a Pheris. Dyma'r union ddyfroedd ble 'roedd prif lecynnau claddu/deori a magu'r eog, brithyll ac yn bwysicach byth y torgoch.
9. Mae'r orsaf gynhyrchu yn weithrdol er canol y 1980'au. Fel rhan o redeg yr orsaf mae'n angenrheidiol gollwng dŵr o gronfa Llyn Peris gyda'r canlyniad fod level Llyn Padarn/ Afon Seiont yn codi .75 meder mewn chew awr.
10. I geisio lleihau effaith yr orsaf ar y bysgotfa yn 1985 fe arwyddwyd cytundeb rhwng Bwrdd Cynhyrchu Trydan Canolog a Awdurdod Dŵr Cymru i stocio eog a brithyll môr.
11. Siomedig iawn fu'r ymrwymiad i gyflawni'r cytundeb. Dangosir na mewn naw mlynedd yn unig rhwng 1985 a 2013 bu'r cynllun stocio'n weithredol. Does gan y gymdeithas ddim gwybodaeth am bendyrfyniadau mewnol yr awdurdodau at gyflawni'r gytundeb. 'Roedd disgwylidau y busai pethau yn gwella gan yn ystod 2010 fe gynhaliwyd arolwg busnes ar ddeorfeydd yr asiantaeth. 'Roedd y cynnigion yn bendant fod eisiau rhesymoli a datblygu'r gwasanaeth deorfeydd er bydd dyfroedd Cymru..
13. Ar sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru, mawr oedd y disgwyliadau buasai symud ymlaen i gyflawni cynwys yr arolwg, ond hollol groes fu hi, gan i'r corff newydd ddechrau ar ymgynghoriad ar ddilysrwydd stocio. Er gwrthwynebiadau cryf, canlyniad yr ymgynghori oedd i fwrdd CNC benderfynu gwahardd stocio yn gyfan-gwbwl heblaw mewn amgylchiadau o argyfwng. Mae teimladau yma ei bod yn argyfwng ar ddyfroedd Padarn ar Seiont yn barod a fod gwybodaeth a gyflwynwyd gan y gymdeithas wedi ei ddiystyru.
14. Efallai ei bod yn ddealladwy pam fod ein sylwadau wedi ei distyru, a bod adroddiadau aelodau proffesiynol o'r bwrdd wedi cario'r dydd. Buasai yn hawdd cydymod a hyn efallai os buasai'r adroddiadau a gyflwynwyd wedi ei selio ar dystiolaeth wyddonol ac nid ar farn rhai unigolion. Yn ychwanegol ni roddwyd gwybodaeth ar gynlluniau stocio llwyddianus dros ben sy'n cael eu cynnal yn Lloegr, Alban ar Iwerddon. Yn ogystal a hyn ni chyflwynwyd yr adroddaid 'Arolwg Busnes Derofeydd' i sylw'r bwrdd. Efallai os buasi'r aelodau wedi cael cyfle i gysidro'r ffeithiau i gyd buasai diweddglo gwahanol wedi bod i'r ymgynghoriad.
15. Mae teinladau cryf yn Eryri fod rhai swyddogion neu aelodau or awdurdod wedi bod yn gynnil a cham-arweiniol gyda yn eu cyflwynidau i'r bwrdd, a fod hyn efallai wedi arwain at benderfyniad 'roeddynt eu hunain yn ddymuno weld.
16. Mae'n bosib cyfeirio at nifer o faterion eraill sy'n codi poendod yn ymwneud a llygredd a diffyg ymateb positif, mae tystiolaeth ar gael o hyn. Mewn difri yn y maes yma does dim wedi newid am y gwell.
17. Ein gobaith yw bydd CNC aeddfedu yn gorff cryf ac effeithiol, fydd yn derbyn ein ymddiriedaeth. Tipyn o ffordd i fynd yn ôl pob golwg.
Yn gywir
Huw P. Hughes
Ysgrifennydd Seiont Gwyrfai a Llyfni